Dyma lle mae morgimorgi yn gallu rhannu ei ysbrydoliaeth a’i hoff bethau//

Here is where morgimorgi shares her inspirations and favorite things

Gruff Rhys has composed the music to an iPhone game about guiding a whale through a Technicolor world … could anyone be better suited to the task? -Michael Cragg, Guardian

Pan mae cân, game a byd hudolus yn ymuno a’u gilydd mewn un enfys prydferth //

When a song, a game and a magical world are joined together in one beautiful rainbow

cliciwch yma am yr app // click here for app

DRAMAU RADIO / RADIO PLAYS

Bues i ddim yn gwrando ar Ddramau Radio o gwbl tan y flwyddyn dwetha, achos ma fe’n swno fel rwbeth diflas ofnadw.  Ond un nos, tra yn neud rwbeth amhleserus fel glanhau neu waxo, gwrandes i ar ‘Black Beauty’ wedi’i ddramateiddio ar y radio. ODD E’N EPIC! Ers ‘ny, fi’n joio nhw gormod.  Ma nhw’n hala dychymyg weithio mwy na teledu, a dy nhw ddim mor galed a llyfre i ganolbwyntio. Ma nhw’n dod mewn pob ffurf, a ma lot o enwe adnabyddys a actorion gwych yn aml yn cwato arny nhw. MORGI TIP: triwch un mas tra yn gwneud gwaith di-feddwl

Radio 4 ar  bbc i player yn le da i ddechre (dewis anferth)- http://www.bbc.co.uk/radio4/programmes/genres/drama/player

I hadn’t listened to Radio Plays up until last year, because they sound very dull. But once upon a time, whilst doing something hideous like cleaning or waxing, I stumbled across a radio dramatisation of the book ‘Black Beauty’.  IT WAS EPIC! Since then, I have enjoyed them too much.  They make the imagination work more than tv, and don’t require as much concentration as books. They come in every form, and there are many familiar names and grat actors hiding on them. MORGI TIP: try whilst doing a mundane job

Radio 4′s bbc i playes is a good place to start  (massive selection)- http://www.bbc.co.uk/radio4/programmes/genres/drama/player

CALENNIG

Dyma Morgi bach a’i ffrindie yn cymryd rhan yn yr hên draddodiad Cymreig o fynd o ddrws i ddrws yn canu Blwyddyn Newyd Dda  //

Here is a little Morgi partaking in the age old Welsh tradition of going door to door singing Happy New Year

Dyma band Morgi – ‘Them Lovely Boys’ yn canu fersiwn o’r gân Calennig mwya adnabyddus //

Here is Morgi’s band ‘Them Lovely Boys’ singing the most well known version of the Welsh New Year Song

Pam? // Why?

Pob Diwrnod Calan yng nghymru, bydde pobl yn mynd o dŷ i dŷ yn canu cân i ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i’w cymdogion.  Dyma T.L.B yn canu yr un mwya adnabyddus.  Roedd hi’n cael ei ystyried yn anlwcus i ganu ar ôl canol dydd ar y cyntaf, ac roedd sawl person yn gwrthod i ferched ganu, gan ei fod e’n dod ac anlwc.  Nid oedd hyn wedi stopio ein Bethan Morgi ni rhag gymryd rhan, yn wir, dyma ei ffrif incwm am sawl blynedd. //

Every New Years Day in Wales, people would go from house to house singing a song to wish villagers a Happy New Year. This is the most well known one.  It was bad luck to sing after midday on New Years Day, and many people banned girls from singing, as they thought it would bring bad bad fortune.  This didn’t stop our very own Bethan Morgi from taking part, it was her main source of income for many years.

Translation of the words:

Happy New Year to you and everyone in your house, this is our  wish. Happy New Year to you.

The year has gone, and she won’t come back.  She has taken many friends, warmly in her embrace //

SIOPE BACH // LITTLE SHOPS

ER BOD morgimorgi fel myfi yn caru pawennu fel gwenci trw’r bargeinion blasus stryd fawr sydd yn y sales (e.e. fi nawr yn berchennog balch o got ffwr ffug ocelot a oedd taten o’r pris gynt) mae Morgi yn dweud cefnogwch busnese bach a lleol.  By chi nid yn unig yn chware rhan mewn stopio’r byd rhag cael ei gymeryd drosto gyda un siop di-enaid sy’n gwerthu popeth (heb enwi enw> odli gyda Mesco) ond by chi’n dod o hyd i ddanteithion unigryw a gwerthfawr.  Fi ffili meddwl am sawl enghraifft gwell na Siop fwtwne Claire Grove yn Arcade y Castell, Caerdydd.

*noder- yn cuddio ma ‘arcades’ pert- llefydd cudd llawn cymeriad.  CERWCH I FFINDO NHW! Gan gofio chi’n fuddsoddwr yn y busnes chi’n dewis prynnu wrthynt //

EVEN THOUGH a morgimorgi like myself loves foraging like a badger through the amazing high Street and designer bargains there are in the lush sales, (e.g I am now a proud strutter and owner of a fake ocelot number that was a whisker of the previous price) Morgi says support small and local businesses.  Not only will you be playing a part in stopping the world being taken over by one soul-less shop selling everything,(naming no names> rhymes with Mesco) but you will end up with unique and special precious trinkets.  I can’t think of many better examples than Claire Grove’s button shop in the Castle Arcade in Cardiff.

*note- tucked away, there are pretty arcades- secret places full of character. FIND THEM! Remember you are investors in whatever business you choose to buy from.

CRISPY DILEMMA

Os chi’n caru crisps, fel fi, chi’n gwbod bod e’n boenus iawn gwylio “y greisionen boleit a sanctaidd” ar ol yng ngwaelod bowlen pan yn rhannu.  Felli dyma’r ateb…//

If you love crispies, like me, you know how painful it is to watch “the polite, sacred crisp” in the bottom of a bowl when sharing.  So here’s the answer…

…Rhoi poke da iddo fe yn y cannol fel bod e’n torri i ddarne a wedyn gallw chi a)gael darn bach yr un neu b) byta’r darne bach ar y slei. (Bydd e ddim yn cyfri fel mynd a’r greisionen ola sanctaidd achos ma nhw’n cael eu cyfri fel ‘brywsion’ erbyn hyn.  )

Morgi wedi meddwl gormod mewn i hwn?  Credu bod fi. //

…Give it a good poke in the middle so that it cracks into pieces then you can a)each have a little piece, or  b)eat the little pieces that are left, on the sneak. (It won’t count as taking the last sacred crisp, as they are classed as mere ‘crumbs’ by this point)

Morgi thought into this too much? Think so

THE NIGHTMARE BEFORE CHRISTMAS

Hoff film morgimorgi // Morgimorgi’s favorite film

Cyfarwyddwr // Director:  Henry Selick

Ysgifennwyr // Writers: Tim Burton, Michael McDowell, Caroline Thompson

Lleisiau // Voices: Danny Elfman, Chris Sarandon, Catherine O’Hara

TÊ CRACLS // CRACKLY TEA

Os chi’n yfed tê neu goffi heb laeth neu dê herbal, darllennwch mlaen…  Mae’n cymryd ache i fe oeri digon i’w yfed nadyw e.  FELLI mae morgimorgi yn awgrymmu 2 giwb o iâ neu rhew mewn ‘plop’ a bydd e’n toddi’n gloi ac wrth wneud hynnu, neud sŵn cracls! A bydd (bach) llai o siawns llosgi tafod.  Phew. //

If you drink tea or coffee sans milk or herbal tea, read on…. Takes ages to cool down doesn’t it.  SO morgimorgi recommends 2 cubes of ice ‘plop’ – it’ll melt quickly and in doing so, make a fun crackly sound!  And (slightly) lessens the chances of a burny tongue.  Phew.

YR HET // THE HAT

Mae Morgi yn caru hetiau mwy na’r byd.  Mae’r gaeaf yn esgus gwych i gadw’r pen yn dwym a ffynclyd.  Dyma ffefryn Morgi: ffwr (Ffug, byth anifail) gwyn. O ffair Vintage Judy, Cathays. Www, ma fe’n bert //

Morgi loves hats more than the world.  Winter is a perfect excuse to keep the head warm and funksome.  Here is Morgi’s fave:  white furs (Fake, never animal) From Judy’s Vintage Fair, Cathays.  Boy, it’s real purrrrdy.

Morgimorgi tip “Os chi’n meddwl bo chi’n edrych yn dwp mewn hetiau, mae siwr o fod yn wîr.  Os chi’n meddwl bod chi’n edrych yn flasus, mae’n wîr.  Mae gyd i neud gyda hyder, gall pawb edrych yn hot mewn hat os chi moyn”

Morgimorgi tip “If you think you look poop in a hat, you’re probably right.  If you think you look like a champ, it’s true.  It’s all to do with confidence.  Everybody has the power to look hot in a hat if you want”

FIDEOS CERDDORIAETH  // MOOSIC FIDEOS

FEIST 1234 : Hoff video Morgi // Morgi’s favorite video

http://vimeo.com/22425344

Cyfarwyddwr // Director : Patrick Daughters

BLOGOTEQUE TAKE AWAY SHOWS:  Gwefan prydferth, wastod yn llwyddo cael y bandiau gorau arno fe // Beautiful website, always managing to feature amazing bands

http://en.blogotheque.net/serie/concert-a-emporter/

Hon yw fy ffefryn // my fave takeaway show:

Filmed by: Vincent Moon> Produced by Beirut and Blogoteque> Sound by Chryde

FIDEO BOB DYDD:

“Gwefan syml i roi sylw i un fideo Gymraeg newydd bob dydd o’r flwyddyn. Hidlo’r aur o’r cachu. Hyd yn oed ar ddiwrnod ‘Dolig  // A website where one new Welsh video is shown every day of the year.  Separates the gold from the faeces”

http://fideobobdydd.com/

^Joio hwn // ^Enjoyful

LLE // A PLACE

This is a good PLAICE

and this is a good PLACE*

*ymddiheuriadau //  this clever play on words does not translate to Welsh. Shame, you’d have loved it.

Gwdihŵ yw hoff le Morgi yng Nghaerdydd. Shwd alle fe ddim fod? Lle bach lliwgar a hudolus yng nghannol y ddinas fawr ddrwg.  Llawn pobls da, cerddoriaeths da, popeths da.  Mae ei fodolaeth yn gwneud y byd yn le gwell.

Gwdihŵ (Welsh for owl) is Morgi’s favorite haunt.  How can it not be? It’s a colorful and magical place i the middle of the city.  Full of good peoples, good musics, good everythings.  It makes the world a better place.

http://gwdihw.co.uk/